Ar lan yr afon - Tudur Dylan Jones
Tra bod rhai yn hoff o chwarae rygbi,
neu golff neu denis, pêl-droed neu hoci,
roedd yn well gen innau ddilyn afon
efo rycsac a phicnic, roedd hynny’n ddigon,
gwialen bysgota, ac ambell fwydyn,
ac aros i’r pysgod gydio’n y bachyn.
Treulio trwy’r dydd yn gwylio’r tonnau,
a’r diwrnod cyfan yn mynd fel eiliadau.
Mae gen i hiraethmath o deimlad arbennig ... am yr afon heno,
ac wrth edrych nôl, be dwi wir yn ei gofio...
nid nifer y pysgod a ges i o’r lli
ond cael amser i siarad, dim ond dad a fi.
(allan o Geiriau Bach Chwareus, Gwasg Carreg Gwalch, 2016)
Mae’n braf cael treulio amser gyda rhywun arbennig. Ac mae rhannu’r un diddordeb â nhw yn fodd i dreulio mwy o amser yn eu cwmni nhw, wrth gwrs. Pysgota yw’r diddordeb sy’n clymu’r tad a’r mab yn y gerdd hon gan Tudur Dylan Jones, a llais y mab a glywn yn dwyn i gof y profiad o fynd i bysgota gyda’i dad slawer dydd.
Tudur Dylan Jones
- Prifardd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwywaith, sef yn 1995 a 2005, a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2007.
- Mae’n fab i’r Prifardd John Gwilym Jones – a’i dad oedd yr Archdderwydd pan gadeiriwyd Tudur Dylan am y tro cyntaf yn 1995.
- Mae’n byw yn Nghaerfyrddin ac yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli.
Gweithgaredd 1
Gosodwch y campau canlynol yn y drefn y maen nhw’n ymddangos yn y gerdd.
Gweithgaredd 2
Atebwch y cwestiynau canlynol.
Gweithgaredd 3
Ydy'r brawddegau canlynol yn gywir neu'n anghywir?
TASG 1
a) Mewn parau, trafodwch pam fod gan y bachgen ‘hiraeth am yr afon heno’.
b) Ceisiwch ddyfalu beth yw union amgylchiadau’r ‘heno’ hwn.
TASG 2
Mae pysgota’n gamp boblogaidd iawn, ond nid yw at ddant pawb.
Ysgrifennwch ddwy restr, un yn nodi pump o bethau sydd o blaid pysgota fel camp, a phump o bethau sydd yn ei herbyn.
- PDF (.pdf): Ar-lan-yr-afon-Tasg-2.pdf
TASG 3
a) Ceisiwch ddwyn i gof un o’ch hoff atgofion plentyndod chi sydd yn gysylltiedig ag afon neu â glan y môr, y math o brofiad pan oedd ‘diwrnod cyfan yn mynd fel eiliadau’.
b) Trowch yr atgof hwnnw yn gerdd fer gan geisio cadw’r llinellau yr un hyd â’i gilydd a chan anelu at ddisgrifiadau byw a bachog, nid dim ond rhestr o ddigwyddiadau. (12 llinell)
CYMORTH HAWDD: Er mwyn dod â’r atgof yn fyw i’r darllenydd, cofiwch ddefnyddio’r synhwyrau wrth ddisgrifio, ynghyd â defnyddio cyffelybiaethau/cymhariaethau, trosiadau a chyflythrennu.
- PDF (.pdf): Ar-lan-yr-afon-Tasg-3.pdf
Taflenni holl dasgau Ar lan yr afon:
- PDF (.pdf): Tasgau-Ar-lan-yr-afon.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Ar-lan-yr-afon.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Ar-lan-yr-afon.pdf