Grisiau

Grisiau - Mari George

(Mehefin 24ain, 2016, yn dilyn pleidlais Brexit... )

 

Mae e’n codi’n y nos

i eistedd ar y gris isa

a galw amdana’ i,

ei ofnau’n newid siâp bob tro

fel y lleuad.

 

A dw i’n cario atebion

yn ôl i’r llofft,

yn addo eto,

y daw’r bore.

 

Ond heno,

dw i’n hŷn dan ei gwestiynau,

felly steddwn gyda’n gilydd

ar ebychiad... o ris

ac yntau’n fy ngwylio’n

brathu

ewiny darn caled ar flaen bys  o leuad.

 

(allan o Pigion y Talwrn, Cyhoeddiadau Barddas, 2016)

Grisiau

Gwrandewch ar Mari George yn darllen ei cherdd, 'Grisiau':

Beth sy’n eich cadw chi ar ddihun yn y nos? Yn y gerdd hon gan Mari George, mae’r fam a’r plentyn bach yn methu â chysgu, ond gofidiau gwahanol sydd gan y ddau. Er bod y fam wedi codi o’r gwely i gysuro ei mab yn nhywyllwch y nos, ac wedi ei sicrhau bod popeth yn iawn, mae’n amlwg bod rhywbeth arall yn ei phoeni hi, rhywbeth na all dyfodiad y bore mo’i drwsio mor hawdd. 

Grisiau - eglurhad y bardd

Mari George yn sôn am ei cherdd, 'Grisiau':

Mari George

Dewch i adnabod y bardd:

Gweithgaredd 1

Pa nodweddion arddull sydd yn yr ymadroddion canlynol o’r gerdd?

Gweithgaredd 2

Uwcholeuwch y llinell yn y gerdd sy’n awgrymu bod y plentyn wedi sylwi bod ei fam hefyd yn gofidio am rywbeth.

Gweithgaredd 3

Cerdd yn y wers rydd yw ‘Grisiau’, felly does ganddi ddim nifer rheolaidd o sillafau na phatrwm odli rheolaidd. Cyfrwch sillafau pob llinell, felly, i weld pa linell sydd â’r mwyaf o sillafau ynddi, a pha un sydd â’r lleiaf.

Gweithgaredd 4

Pa nodwedd o’r nos sy’n ymddangos ddwywaith yn y gerdd?