Y Deg Gorchymyn

Y Deg Gorchymyn - Mererid Hopwood

Cyngor chwaer fawr i chwaer fach sy'n dechrau ysgol uwchradd.

 

Rheol rhif un

Rhaid gwisgo dy dei

yn fyr, ok?

 

Rheol rhif dau

Rhaid cadw gwm cnoi

yn dy fag ysgol cwl,

dim sachellbag ysgol traddodiadol ledr

a DIM CAGŴLmath o got law ysgafn .

 

Rheol rhif tri

Sgert mini bob amser

a’i gwisgo â hyder.

 

Rheol rhif pedwar

Sodlau!esgidiau â sodlau uchel

 

Rheol rhif pump

Gwisg fathodynnaumwy nag un bathodyn

Ond dim ond un neu ddau.

 

Rheol rhif chwech

Paid gwisgo cot –

hyd yn oed

os yw hi’n

bwrw glaw

lot.

 

Rheol rhif saith

Gwna dy waith!

 

Rheol rhif wyth

Ond paid â gwneud llwythllawer iawn .

 

Rheol rhif naw

Cofia – beth bynnag a ddaw

mae’n hysgol ni yn hollol WAW!

 

Rheol rhif deg

A phan ryn ni’n colli

mewn rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a hoci,

neu pan ddaw’r côr yn olaf yn y 'steddfod sir –

mae rheol rhif naw yn aros yn wir.

 

(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)

A oeddech yn edrych ymlaen at symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd? Neu a oedd rhywrai wedi codi ofn arnoch gyda chyfres o rybuddion am beth i wneud a pheidio â gwneud wedi cyrraedd yno? Wedi’r cyfan, mae pwysau ar bawb i gydymffurfio yn yr ysgol uwchradd – pwysau gan athrawon i sicrhau ein bod chi’n dilyn y drefn, ond hefyd pwysau gan gyd-ddisgyblion sy’n awyddus i chi ddilyn cyfres o ‘reolau’ gwahanol, er mwyn i chi fod yn un o’r gang, beth bynnag yw hwnnw. Mae’r rheolau hyn – fel ffasiwn – yn newid o gyfnod i gyfnod, ond mae rhai pethau yn aros yr un peth yn hanes pob disgybl ysgol ymhob oes.

Mererid Hopwood

 

  • Prifardd ac Awdur sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw yng Ngaerfyrddin.
  • Mererid Hopwood oedd y ferch gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 2001. Hyd at 2018, hi yw’r unig ferch i ennill y Gadair.
  • Mae hi hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008.

 

mererid hopwood2 

 

 

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch y geiriau yn y gerdd sy’n dangos bod y bardd yn gorchymyn.

Gweithgaredd 2

Mae’r holl orchmynion yn y gerdd wedi eu cymysgu. Aildrefnwch y gorchmynion i gyfateb i’w rhifau yn y gerdd.

Gweithgaredd 3

Pa rai o’r geiriau neu ymadroddion canlynol sy’n dangos i ni mai disgybl ysgol yn hytrach nag athrawon sy’n gorchymyn yn y gerdd?

Gweithgaredd 4

Anagramau o ba eiriau neu ymadroddion yn y gerdd yw’r canlynol?