Ward y Plant

Ward y Plant - Tudur Dylan Jones

Er bod y nyrsus yma’n ffeindcaredig

yn gwenu’n glênclên = dymunol bob un,

rwy’n edrych ’mlaen at gael mynd ’nôl

i 'nghartref i fy hun.

 

Er bod y plant sy’n rhannu’r boen

i gyd yn ffrindiau da,

dwi eisiau bod ymhell o’r ward

yn chwarae pan ddaw’r ha’.

 

Mae heno’n gur, mae’r nos yn hir,

ac er bod fory’n bell,

mae angen weithiau bod yn sâl

er mwyn cael dod yn well.

 

(allan o Adenydd, Tudur Dylan Jones, Cyhoeddiadau Barddas, 2001)

A fuoch chi yn yr ysbyty erioed yn ymweld â rhywun? Neu a fuoch chi eich hun yn un o’r cleifion yno? Beth bynnag eich profiad, mae’n deg dweud nad oes neb yn dymuno bod yn yr ysbyty. Nid am nad oes yno groeso a gofal, ond oherwydd nad oes neb yn dymuno bod yn sâl. Mae hyn yn arbennig o wir am blant, mae’n siŵr. Ac yn y gerdd hon, mae Tudur Dylan Jones yn smalio bod yn blentyn sy’n glaf yn yr ysbyty, ac yn gwneud ei orau glas i edrych ar yr ochr orau o bethau, er mor anodd yw hynny.

Tudur Dylan Jones

 

tudur dylan llai

 

  • Prifardd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwywaith, sef yn 1995 a 2005, a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2007.
  • Mae’n fab i’r Prifardd John Gwilym Jones – a’i dad oedd yr Archdderwydd pan gadeiriwyd Tudur Dylan am y tro cyntaf yn 1995.
  • Mae’n byw yn Nghaerfyrddin ac yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli.

 

Hysbyseb rhaglen S4C 'Ward y Plant':

Gweithgaredd 1

Ydy'r brawddegau canlynol yn gywir neu'n anghywir?

Gweithgaredd 2

Sawl sillaf sydd yn y llinellau canlynol?

Gweithgaredd 3

Enghraifft o ba nodwedd arddull yw ‘gwenu’n glên’?

Gweithgaredd 4

Dewch o hyd i'r tri phâr o eiriau sy'n odli yn y rhestr o eiriau.