Annibendod - Hywel Griffiths
Pan fydd y llyfrau’n daclus
a’r Lego yn y bocs,
y lliwiau wedi’u cadwwedi eu rhoi heibio
’da Cyw, y clai a’r blocs,
bydd trefn ar fywyd fel o’r bla’nblaen
ar soffa fach y lolfaystafell fyw lân.
Ond gwag yw’r carped moethusdrud ,
mae bylchau ar y llawr,
tawelwch yw’r taclusrwydd
heb sŵn y chwarae mawr,
a dim ond sibrwd anadl ddofndofn = dwfn
o’r radio bach sy’n lleddfutawelu ’r ofn.
(allan o Llif Coch Awst, Hywel Griffiths, Cyhoeddiadau Barddas, 2017)
Annibendod
Hywel Griffiths yn darllen ei gerdd, 'Annibendod':
A oes rhywun yn dweud wrthoch byth a hefyd i dacluso ar eich ôl? Yn lladd arnoch chi am wneud y fath annibendod? Y sawl sy’n gofalu amdanoch gartref, o bosib? Mae taclusrwydd yn bwysig, wrth gwrs, ond fel mae’r gerdd hon gan Hywel Griffiths yn dangos, mae rhywbeth annaturiol amdano weithiau hefyd, er mor ddymunol. Mae’r gerdd wedi ei hysgrifennu o safbwynt rhieni ar ddiwedd dydd: mae eu plant yn y gwely ond o’r ystafell fyw, drwy gyfrwng dyfais electronig, maen nhw’n dal i allu clywed y plant yn cysgu’n braf.
Annibendod - eglurhad y bardd
Beth sydd gan Hywel Griffiths i'w ddweud am ei gerdd?
Hywel Griffiths
Dewch i adnabod y bardd:
Gweithgaredd 1
Uwcholeuwch yr holl arwyddion o fywyd y plentyn sydd yn y pennill cyntaf.
Gweithgaredd 2
Uwcholeuwch yr holl ansoddeiriau ym mhennill 2.
Gweithgaredd 3
Allwch chi ddod o hyd i’r geiriau o bennill 2 yn y chwilair?
TASG 1
Mewn parau, gwnewch restr o’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn yr ail bennill sy’n tynnu’n sylw ni at absenoldeb y plentyn o’r ystafell fyw.
TASG 2
Beth yw agwedd y rhieni at y tawelwch sy’n dod i’w rhan ar ddiwedd dydd?
TASG 3
Trafodwch beth yw’r ofn sy’n cael ei leddfu ar ddiwedd y gerdd?
TASG 4
a) Beth oedd eich hoff degan chi pan oeddech chi’n blentyn bach?
b) Disgrifiwch y tegan a nodwch rai o’r atgofion sy’n gysylltiedig â’r tegan hwnnw (150 o eiriau).
TASG 5
Dychmygwch fod gennych frawd bach neu chwaer fach bum mlwydd oed, a bod hwnnw neu honno yn gofyn i chi ddweud stori cyn iddo/iddi fynd i’r gwely, stori lle mae’r prif gymeriadau yn deganau cyfarwydd.
Ysgrifennwch y stori honno, gan gofio beth yw oedran y sawl fydd yn gwrando ar y stori (500 o eiriau).
Taflen holl dasgau Annibendod:
- PDF (.pdf): Tasgau-Annibendod.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Annibendod2.docx