Croen

Croen - Sian Northey

Ar ôl i’w mam a’i thad wahanu,

a’r cyffwrdd a’i creodd

ddod i ben am byth,

aeth,

yn arddegynplentyn yn ei arddegau  blindrwg ei dymer; annymunol ,

yn blentyn briwclwyf neu niwed ,

i ystafell

a gadael i’r nodwyddau inc

droi y boen yn ddau air,

yn Dad a Mam

a fydd ymhlethwedi eu plethu i’w gilydd tra bydd

ar ddarn ohoni.

 

(allan o Trwy Ddyddiau Gwydr, Sian Northey, Gwasg Carreg Gwalch, 2013)

Croen

Sian Northey yn darllen ei cherdd, 'Croen':

A oes gennych chi datŵ? Neu a ydych erioed wedi dymuno cael tatŵ? A phe bai gennych ddewis, tatŵ o beth fyddai orau gennych? O bosib y byddech yn dewis cofnodi enwau’r bobl hynny yr ydych yn eu caru, fel yn achos y ferch sy’n llefaru yn y gerdd hon gan Siân Northey. Gwaetha’r modd, amgylchiadau trist sydd wedi ei gwthio i gymryd y cam arbennig hwn.

Croen - eglurhad y bardd

Beth sydd gan y bardd, Sian Northey, i'w ddweud am ei cherdd, 'Croen'?

Sian Northey

Dewch i adnabod y bardd:

Gweithgaredd 1

Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.

Gweithgaredd 2

Uwcholeuwch y tair enghraifft o gyflythrennu sydd yn y gerdd.