Fesul Un - Llŷr Gwyn Lewis
(Tabernaclenw ar gapel , Llanfyllintref yn ngogledd Sir Drefaldwyn )
Fesul unun ar y tro , i gymunocymuno = dod i gymdeithasu ,
er y twll sy’n pydru’r to,
daw’r addolwyry bobl sy’n dod i addoli Duw yn y capel drwy ddilywdilyw = glaw mawr ,
dod o hyd i dŷ eu Duw’n
denau iawn, a dwyn yn ôl
oes o bethau Sabotholyn ymwneud â’r Saboth .
Rhoi gweddi, er y gwyddan
nhw’r gwir; dal i godi’r gân
am dyrfâutyrfâu = mwy nag un tyrfa neu dorf y dyddiau da,
am wynfydgwynfyd = byd perffaith eu cymanfacynulliad o bobl ,
a’u hemynauemynau = caneuon Cristnogol nhw’n mynnudweud yn benderfynol
nad yw Duw ’di mynd o’i dŷ.
(allan o Pigion y Talwrn [13], Cyhoeddiadau Barddas, 2016)
Fesul Un
Llŷr Gwyn Lewis yn darllen ei gerdd, 'Fesul Un':
A fuoch chi mewn capel erioed? Neu ydych chi’n adnabod rhywun sy’n mynd i’r capel, neu a oedd yn arfer mynd i’r capel? Roedd adeg pan oedd pawb yng Nghymru, bron, yn arfer mynd i’r capel (neu i’r eglwys). Ond, daeth tro ar fyd. Erbyn hyn, mae llai na 10% o boblogaeth Cymru’n mynd yn rheolaidd i gapel neu eglwys, ac mae cant a mil o resymau am hyn, mae’n siŵr. Yn y gerdd hon, mae Llŷr Gwyn Lewis yn sylwi ar aelodau un capel penodol yng Nghymru, a’r modd y maen nhw’n dal i ddod i’r gwasnaeth ar ddydd Sul er gwaethaf pawb a phopeth.
Fesul Un - eglurhad y bardd
Beth sydd gan Llŷr Gwyn Lewis i ddweud am ei gerdd?
Llŷr Gwyn Lewis
Dewch i adnabod y bardd:
Gweithgaredd 1
Uwcholeuwch yr ymadroddion sy’n awgrymu nad yw’r capel na chrefydd yn gyffredinol mewn cyflwr da iawn.
Gweithgaredd 2
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
TASG 1
Mae’r addolwyr hyn yn dal i gofio ‘tyrfâu y dyddiau da’ pan oedd y capeli’n llawn.
Ond ai edrych yn ôl yn hiraethus i’r gorffennol y maen nhw?
Neu a oes rheswm mwy cadarnhaol ganddyn nhw dros barhau i weddïo ac i godi’r gân fel yn y gorffennol?
TASG 2
Beth, dybiwch chi, yw barn bersonol y bardd am yr addolwyr yn ei gerdd?
- A yw e’n ddilornus ohonyn nhw?
- A yw’n synnu atyn nhw?
- A yw’n methu’n lân â’u deall nhw?
- A yw e’n eu hedmygu nhw?
- Neu a yw e’n cenfigennu wrthyn nhw, hyd yn oed?
Beth yw’r dystiolaeth yn y gerdd sy’n cefnogi eich safbwynt chi am farn bersonol y bardd?
TASG 3
A fuoch chi mewn capel neu eglwys erioed?
- Os y buoch, sut le, felly, yw capel? Ceisiwch ystyried nid yn unig natur yr adeilad ei hun, ond hefyd naws a theimlad y lle, ynghyd â natur y bobl oedd yno yn ystod eich ymweliad/au chi.
- Os na fuoch chi y tu mewn i gapel neu eglwys erioed, mae’n siŵr eich bod wedi eu gweld nhw o’r tu allan. Dychmygwch, felly, sut le sydd y tu mewn iddyn nhw.
a) Ysgrifennwch ddisgrifiad byr o’r capel neu’r eglwys (150 o eiriau).
b) Wedi ysgrifennu’r disgrifiad, beth am geisio troi’r disgrifiad yn gerdd?
Ceisiwch ddewis darnau gorau’r disgrifiad, a’u haildrefnu a’u cywasgu i 12 llinell, gan sicrhau bod y dweud mor fachog a difyr ag sy’n bosib.
TASG 4
Rydych chi’n darllen erthygl yn y papur lleol am gapel yn eich cymuned chi sydd wedi gorfod cau a chael ei werthu oherwydd nad oes neb yn mynd iddo bellach. Mae’r erthygl yn sôn fod diddordeb gan gwmni siopau betio brynu’r capel a throi’r adeilad yn siop fetio.
Mae barn y gymuned wedi’i hollti’n ddwy gan y stori hon: hanner y gymuned o blaid y datblygiad, a’r hanner arall yn chwyrn yn ei erbyn.
Ysgrifennwch lythyr (200-250 o eiriau) i’r papur lleol yn mynegi eich safbwynt chi, gan geisio darbwyllo’r darllenwyr i gytuno â chi.
Cyflwynwch gyfres o ddadleuon bachog dros neu yn erbyn y datblygiad.
Os yw’n haws, esguswch eich bod yn rhywun gwahanol i chi eich hun, er enghraifft:
- beth am ddychmygu eich bod chi’n gyn-aelod o’r capel,
- neu eich bod chi’n fetiwr brwd,
- neu eich bod chi’n fam neu’n dad i blant ifanc?
- PDF (.pdf): Fesul-Un-Tasg-4.pdf
Taflen holl dasgau Fesul Un:
- PDF (.pdf): Tasgau-Fesul-Un.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Fesul-Un.docx