Ar Gyrion y Dre

Ar Gyrion y Dre - Rhys Iorwerth

A dyna lle’r oedd hi, yn anfon rhyw decst

rhwng drysau McDonalds a maes parcio Next

pan sylwodd hi’n sydyn na chofiai hi ble

adawodd hi’i char. Dim ond cyrionymylon y dre

 

a welai o’i hamgylch, warysauadeiladau ar gyfer storio nwyddau mawr hir

a’u bilbordiaubyrddau hysbysebu  unffurfpob un yr un fath â’i gilydd yn codi o’r tir.

Mewn rhes: TK Maxx, M&S, KFC,

A Morrisons sgwâr; Dunelm Mill, JJB;

 

siop fathrwms, lle soffas, cwtsied fach ar gyfer cadw anifeiliaid pizza’n ddi-feth di-feth = byth yn methu, bob tro ,

i gyd yn ei drysu, i gyd yr un peth

ag oedden nhw ym mhobman o’r mynydd i’r môr,

o Tescos i Starbucks, y cyfan mewn côr

 

yn chwerthin mewn cylch am na chofiai hi ble

roedd hi wedi parcio ar gyrion y dre.

Ac yna arswydoddcafodd hi ofn wrth ddirnaddirnad = deall yn iawn ei stâdcyflwr :

ni wyddai hi bellach ble’r oedd hi’n y wlad.

 

O Boots draw i Asda, ymuno’n un tsiaencadwyn

wnâi’r siopau o’i chwmpas; creu cadwyn o’i blaen

a chymaint ei dryswch, ei dychryn a’i strachhelynt, trafferth ,

dechreuodd hi grïo a chrynu’r beth fachyr hen beth fach, druan .

 

A oedd hi ym Mangor, Llandudno neu’n Rhyl?

Yng Nghaer neu yn Lerpwl? Manceinion? At dil

yn un o’r unedau... i holi’r aeth hi,

ond fedrai neb ddeall gwallgofrwyddy cyfwr o fod yn wallgof ei chri.

 

Gafaelodd yn sydyn drachefnunwaith eto yn ei ffôn.

Y batri ddiffygiodddiffygiodd = methodd . Hyd heddiw mae sôn

mai dyna lle mae hi rhwng Staples a Spar

hefo coffi o Costa yn chwilio am ei char.

 

(allan o Un Stribedyn Bach, Rhys Iorwerth, Gwasg Carreg Gwlach, 2014)

Ar Gyrion y Dre

Gwrandewch ar Rhys Iorwerth yn darllen ei gerdd 'Ar Gyrion y Dre':

A fuoch chi mewn canolfan siopa ar gyrion y dre erioed? Wel, do, mae’n debyg. Fel arfer, rhyw fannau tebyg iawn i’w gilydd yw’r canolfannau hynny. Yr un siopau, yr un logos, yr un brandiau dro ar ôl tro – ac un maes parcio mawr yn gwasnaethu’r cyfan. Ac mae pobl weithiau’n anghofio mewn meysydd parcio fel y rhain ble yn union y parcion nhw eu ceir! Dyna sydd wedi digwydd i’r ferch yn y gerdd ysgafn hon, a hithau fel petai hi wedi drysu’n lân yng nghanol yr holl siopau.

Ar Gyrion y Dre - eglurhad y bardd

Beth gan gan y bardd, Rhys Iorwerth, i'w ddweud am ei gerdd?

Rhys Iorwerth

Dewch i adnabod y bardd:

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch enwau'r holl siopau a llefydd bwyta penodol sydd yn y gerdd.

Gweithgaredd 2

Darllenwch y gerdd eto. Ydy'r brawddegau canlynol yn gywir neu'n anghywir?

Gweithgaredd 3

Pa nodwedd arddull yw’r disgrifiad canlynol o’r siopau: ‘y cyfan mewn côr/ yn chwerthin mewn cylch’?

Gweithgaredd 4

Darllenwch y gerdd eto a gwnewch restr o enwau’r trefi a'r dinasoedd y mae'r bardd yn cyfeirio atynt.

Allwch chi ddod o hyd i'r enwau hynny yn y chwilair?