Snog

Snog - Caryl Parry Jones

Sa i'nnid wyf; dwi ddim  gwybod a alla i wneud e,

Sa i’n gwybod a ydw i’n moyneisiau ,

Ond os na wna ei e’n gloicloi = cyflym wi mewn trwbwl,

Fydda i’n ffilimethu byw yn fy nghroen!

 

Ma’ Gwen ’di gwneud e ers acheachau = amser maith ,

A ma’ Ffion ’di dechre ers mis,

A wi’n credu bod Catrin ’di mentro

’Da bachan ffit o’r enw Rhys.

 

Wi di rhannu ambell i gusan

Ar y boch a hyd yn oed ar y geg,

A hynny mewn parti Nadolig

’da Cai Tomos o Flwyddyn Deg.

 

Ond ma’ snog... wel ma’ snog yn beth arall,

Ma’ fe’n ddechre cyfnod yn wir,

Ac yn ddiwedd ar un arall

Ac ma’r cyfnod bach nesa MOR hir!

 

Wi ’di gweld nhw tu draw i’r cae wharechwarae ,

Wi ’di gweld nhw â’m llyged fy hun,

Ac ma’ edrych ar gwpwl yn snogo

Fel edrych ar Washin Mashîn!

 

Ma’u penne nhw’n troi fel meline

A’u llyged ar gau i’r holl fyd,

A’u cege ar agor fel cywion

Yn aros i’r fam ddod â phryd.

 

Nawr, beth wi fod gwneud gyda ’nhrwyn i

Pan ddaw fy niwrnod mawr?

Wi’n ’i gadw fe’n pwynto syth ymlaen?

Neu ei droi shatua ’r gorllewin neu’r llawr?

 

Wi’n gweud wrthoch chi mae e’n benblethpenbleth = ... ?

Ma’ fe’n bwyse rhy drwm o ’mlaen.

A ma’n rhaid i fi lico rhywun ddigon,

Jiw! Dyw snogo yn ddim byd ond straen!

 

(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)

Mae cymaint o brofiadau newydd yn ein disgwyl ni yn ein harddegau. A chymaint o sgiilau newydd i’w dysgu. Ond weithiau rydym yn mynd o flaen gofid: yn mynd i gredu bod yn rhaid i ni wneud popeth y mae pawb arall wedi ei wneud – neu, o leiaf, popeth y maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi gwneud! Ac yn y gerdd hon, mae Caryl Parry Jones yn cael tipyn o hwyl am ben y math hwn o ofid.

Caryl Parry Jones

g. 1958, Sir y Fflint

 

caryl

 

  • Cantores boblogaidd sydd hefyd yn gyfansoddwraig, actores a chyflwynwraig radio.
  • Mae hi'n byw ym Mro Morgannwg.
  • Caryl oedd Bardd Plant Cymru 2007-2008 ac mae hi wedi ysgrifennu sawl llyfr ar gyfer plant.
  • Mae hi'n cyflwyno yn y boreau ar Radio Cymru 2.

 

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch y tair cyffelybiaeth/cymhariaeth sydd yn y gerdd.

Gweithgaredd 2

Acen a thafodiaith y de sydd i’w clywed yn y gerdd hon. Pa eiriau sy'n eiriau tafodieithol a pha eiriau sy'n eiriau safonol?

Gweithgaredd 3

Atebwch y cwestiynau canlynol.