Linda Waz Ere - Aled Lewis Evans
Linda,
rwy’n dy gyfarchcyfarch = dweud ‘Helô’ rŵannawr
er nad ydw i yn dy 'nabod di.
Yma ar wal y Prom
yn y Rhyl
syllaf ar d'ymgaisdy ymgais
at anfarwoldebcael byw am byth graffiti.
Rhyw ddydd pan oedd y semént
yn feddal
a thithau awydda thi hefyd ag awydd gadael d'ôldy ôl
ar yr hen fyd 'mayma ,
rhoist dy fys
i fandaleiddiogwneud niwed i eiddo yn fwriadol ’r hen semént cynnes:
‘Linda waz ere’,
a dyna sut yr ydw i’n dy 'nabod di
i’th gyfarch.
Roeddwn am i ti wybod
ein bod ni i gyd yr un fath
yn yr hen fyd 'ma –
eisiau gadael rhyw argraffmarc, ôl
ar ein marwoldeb... .
Wn i ddim o’th hanes, Linda,
dim ond mai hanes y ddynoliaethdynoliaeth wyt ti,
heddiw.
(allan o Sglefrfyrddio, Aled Lewis Evans, Cyhoeddiadau Barddas, 1994)
Mae graffiti o’n cwmpas ymhob man, ac mae gan bawb eu rhesymau gwahanol am adael eu hôl ar waliau neu ddrysau neu lorïau neu ble bynnag. Y ffurf fwyaf gyffredin ar graffiti yw’r ‘X waz ere’, ac yn y Rhyl, fe welodd Aled Lewis Evans esiampl o hyn wedi’i gadael mewn semént. Yn y gerdd, mae’r bardd yn dychmygu ei fod yn siarad â’r ferch a ysgrifennodd ei neges yno.
Aled Lewis Evans
Bardd ac awdur sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n bregethwr ac yn byw yn ardal Wrecsam.
Roedd ei gyfrol o farddoniaeth, Llinynnau, a gyhoeddwyd yn 2016, yn cynnwys 60 o gerddi newydd.
Gweithgaredd 1
Uwcholeuwch bob ymadrodd yn y gerdd sy’n dangos fod y bardd yn dychmygu ei hun yn siarad yn uniongyrchol â Linda.
Gweithgaredd 2
Pa linellau yn y gerdd sy’n dangos i ni fod y bardd yn cydymdeimlo â Linda?
Gweithgaredd 3
Anagramau o ba eiriau yn y gerdd yw'r canlynol?
Gweithgaredd 4
Dim ond tri ansoddair sy’n cael eu defnyddio yn y gerdd i gyd, ac mae un ohonyn nhw’n cael ei ddefnyddio dair gwaith. Dewch o hyd iddyn nhw.
Gweithgaredd 5
Cysylltwch y gair gyda'r disgrifiad cywir.
TASG 1
a) Petasech chi am greu graffiti i sicrhau y byddai pawb yn cofio amdanoch chi fel unigolyn, pa eiriau a ddewisech chi?
b) Recordiwch eich hun yn llefaru’r geiriau hyn. (Gall yr athro neu’r athrawes gyfuno’r holl recordiadau fel cofnod llafar o ymgais y dosbarth at ‘anfarwoldeb graffiti’.)
c) Wedi i bawb yn y dosbarth gwblhau eu graffiti personol, beth am i bawb yn eu tro ysgrifennu’r graffiti hynny ar bapur poster mawr gwyn ar wal yr ystafell ddosbarth (poster y mae’r athro neu’r athrawes wedi’i osod yno’n benodol ar gyfer y dasg hon!)?
Gall hwn fod yn gofnod ysgrifenedig o ymgais y dosbarth at ‘anfarwoldeb graffiti’.
ch) Wedi i’r papur poster gael ei lenwi, bydd cyfle gan bob disgybl i ddarllen yr holl bytiau gan eu cyd-ddisgyblion.
d) Beth am feddwl sut y byddai’n bosib cyfuno a threfnu rhai o’r datganiadau i greu cerdd (cerdd rap, efallai)?
TASG 2
Aeth dros chwarter canrif heibio ers i Linda adael ei hôl yn y semént yn y Rhyl.
Dychmygwch sut fywyd oedd arni ar y pryd.
Ysgrifennwch ymson (250 o eiriau) yn cofnodi ei theimladau’r diwrnod hwnnw, ac yn esbonio pam yr ysgrifennodd y graffiti hwnnw.
Taflen holl dasgau Linda Waz Ere:
- PDF (.pdf): Tasgau-Linda-Waz-Ere.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Linda-Waz-Ere2.docx