A fuoch chi mewn canolfan siopa ar gyrion y dre erioed? Wel, do, mae’n debyg. Fel arfer, rhyw fannau tebyg iawn i’w gilydd yw’r canolfannau hynny. Yr un siopau, yr un logos, yr un brandiau dro ar ôl tro – ac un maes parcio mawr yn gwasnaethu’r cyfan. Ac mae pobl weithiau’n anghofio mewn meysydd parcio fel y rhain ble yn union y parcion nhw eu ceir! Dyna sydd wedi digwydd i’r ferch yn y gerdd ysgafn hon, a hithau fel petai hi wedi drysu’n lân yng nghanol yr holl siopau.