TASG 1
a) Petasech chi am greu graffiti i sicrhau y byddai pawb yn cofio amdanoch chi fel unigolyn, pa eiriau a ddewisech chi?
b) Recordiwch eich hun yn llefaru’r geiriau hyn. (Gall yr athro neu’r athrawes gyfuno’r holl recordiadau fel cofnod llafar o ymgais y dosbarth at ‘anfarwoldeb graffiti’.)
c) Wedi i bawb yn y dosbarth gwblhau eu graffiti personol, beth am i bawb yn eu tro ysgrifennu’r graffiti hynny ar bapur poster mawr gwyn ar wal yr ystafell ddosbarth (poster y mae’r athro neu’r athrawes wedi’i osod yno’n benodol ar gyfer y dasg hon!)?
Gall hwn fod yn gofnod ysgrifenedig o ymgais y dosbarth at ‘anfarwoldeb graffiti’.
ch) Wedi i’r papur poster gael ei lenwi, bydd cyfle gan bob disgybl i ddarllen yr holl bytiau gan eu cyd-ddisgyblion.
d) Beth am feddwl sut y byddai’n bosib cyfuno a threfnu rhai o’r datganiadau i greu cerdd (cerdd rap, efallai)?