Pethau Bychain - Mei Gwynedd
Cawsom draethau aur, mynyddoedd a bryniau mwyn
Lle mae nentyddmwy nag un nant pur yn canu rhwng y brwyn;
Cawsom yr iaith Gymraeg i’w meithrinmagu a’i chadw’n iach,
Felly, frodyr a chwiorydd, gyda’n gilydd gwnawn y pethau bach.
Cytgan
Maen nhw’n ein clywed dros y sir,
Maen nhw’n ein clywed dros y ffiniaumwy nag un ffin ,
Maen nhw’n ein clywed ni ym mhen draw’r byd
Yn gwneud y pethau bychain nawr.
Mae rhai yn byw'n y wlad ac eraill yn y dre,
A’r hyn sy’n 'hunouno = gwneud yn un ni yw bod ni’n siarad iaith y neiaith y nef ... ;
Mae gwahanol ddywediadaudywediadau ... , rhai wrth ein boddau a rhai sy’n flin,
Ond dim ond un ffordd sydd i ddweud ‘Dwi’n dy garu di’.
Cytgan
Maen nhw’n ein clywed dros y sir ...
Nawr yw ein hamser ni,
Cryfhawnfe ddown ni’n gryfach drwy eiriau Dewi
O’r Preseliardal yn Sir Benfro ... lan drwy FônMôn = Ynys Môn / Sir Fôn
Ledled Cymrudros Gymru i gyd , canwn oll yn llon.
Ry’ ni’n eu gwneud nhw bob dydd,
Yn gwneud y pethau bychain nawr.
(Hawlfraint Mei Gwynedd)
Gwlad fach yw Cymru – a chanddi galon fawr. Ac weithiau mae’n braf cael dathlu’r pethau hynny sy’n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig, yn wlad wahanol i wledydd eraill. A dyna mae’r cerddor Mei Gwynedd yn ei wneud yng ngeiriau’r gân hon, cân a gyfansoddwyd wrth iddo deithio o amgylch ysgolion Cymru. Recordiwyd y gân mewn cyfres o weithdai gyda phobl ifanc yn chwarae'r darnau offerynnol, gan gynnwys drymiau a bâs yn Llangefni, gitarau yn Llanelli a chôr yng Nghrymych. Mae’r teitl wedi ei ysbrydoli gan eiriau olaf Dewi Sant: ‘Gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i’.
Gwyliwch y fideo i ddysgu am y broses o greu'r gân:
Mei Gwynedd
g. 1976
Mae Mei Gwynedd (Meilir Gwynedd) yn gerddor a gitarydd o Waunfawr, Gwynedd. Mae’n gyn-aelod o’r bandiau Big Leaves a Sibrydion. Fe gyhoeddodd ei albwm unigol cyntaf yn 2018 sef Glas.
Gweithgaredd 1
Uwcholeuwch y geiriau sy’n ymwneud â thirwedd Cymru yn y pennill cyntaf. Mae pump ohonyn’ nhw.
Byddwch yn union wrth uwcholeuo.
Gweithgaredd 2
Atebwch y cwestiynau canlynol.
Gweithgaredd 3
Anagramau o ba eiriau neu ymadroddion yw’r canlynol?
TASG 1
Mewn parau, ceisiwch esbonio i’ch gilydd beth yw ystyr y gytgan:
'Maen nhw’n ein clywed dros y sir,
Maen nhw’n ein clywed dros y ffiniau,
Maen nhw’n ein clywed ni ym mhen draw’r byd
Yn gwneud y pethau bychain nawr.'
Holwch eich gilydd:
a) Pwy yw’r ‘nhw’?
b) Beth maen nhw’n ei glywed?
c) Pa bethau bychain sy’n cael eu gwneud?
TASG 2
a) Beth ydych chi’n credu oedd ystyr geiriau olaf Dewi Sant: ‘Gwnewch y pethau bychain’?
b) Sut maen nhw’n berthnasol i ni yng Nghymru heddiw?
TASG 3
Lluniwch boster sy’n annog eich cyd-ddisgyblion i wneud y pethau bychain a allai wneud gwahaniaeth o ran Cymreictod a defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol.
Ceisiwch ganolbwyntio ar un peth bach penodol iawn neu ar gwpwl o bethau bychain penodol iawn.
TASG 4
Ysgrifennwch lythyr at y pennaeth yn mynegi pryder bod y defnydd o’r Gymraeg yn lleihau o fewn yr ysgol.
Yn ogystal â chwyno am y sefyllfa, ceisiwch roi awgrymiadau am ffyrdd ymarferol o wella’r sefyllfa. (350 o eiriau)
Taflen holl dasgau Pethau Bychain:
- PDF (.pdf): Tasgau-Pethau-Bychain2.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Pethau-Bychain.docx