Dydd Iau Chwaraeon - Mererid Hopwood
Llawn yw ’molabola= bol (fy mol) bach o newynprinder bwyd difrifol ,
ond fwyta’ i ddim mo’r tost a’r menyn,
na’r cig moch na’r wy ’di ferwi –
mae’n ddydd Iau, mae’n ddiwrnod hoci.
Llawn yw’r gampfa o beryglon,
llawn yw’r cae o waed gelynion,
llawn yw’r gawod o gorynnod,
llawn wyf i o ofn a chryndodcryndod = ias; y weithred o grynu .
Llawn yw 'nghoesau gwyn o gleisiau,
llawn yw 'nghorff o anafiadau,
llawn yw 'nghlust o ddim ond cintachcwynion
Mrs Jones a’i sgrech: CALETACH!!!
Llawn yw 'mhen o esgusodion,
llawn wyf i o fân obeithion
y daw corwyntstorm ddinistriol bach o rywle
ac eira mawr i’m cadw adre.
Llawn yw 'nghalon i o wactergwacter = y cyflwr o fod yn wag ,
tybed, rywbryd, a ddaw amser
y bydd naid i fore Gwener
heb fod Iau yn dilyn Mercher?
(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Un peth yw peidio â mwynhau chwaraeon ac ymarfer corff. Peth arall yw bod â’u hofn nhw! Yn y gerdd hon, mae Mererid Hopwood yn rhestru’r holl bethau y mae’n eu casáu am chwaraeon yn yr ysgol, ac yn esbonio sut mae hi’n gobeithio eu hosgoi nhw. Cyfres o luniau yw’r gerdd sy’n dangos i ni beth yw teimladau’r ferch ysgol tuag at y profiad, ac mae’n ailadrodd y gair ‘Llawn’ dro ar ôl tro er mwyn i ni gael deall mor gryf yw’r teimladau hynny. Mae’r gerdd wedi ei chyfansoddi ar ffurf penillion telyn.
Mererid Hopwood
- Prifardd ac Awdur sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw yng Ngaerfyrddin.
- Mererid Hopwood oedd y ferch gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 2001. Hyd at 2018, hi yw’r unig ferch i ennill y Gadair.
- Mae hi hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008.
Gweithgaredd 1
Pa linellau yn y tri phennill cyntaf sy’n creu darluniau o boen ac ofn?
Gweithgaredd 2
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
Gweithgaredd 3
Cysylltwch ail hanner y brawddegau gyda'r hanner cyntaf cywir.
TASG 1
Mewn parau, trafodwch eich hoff atgof a’ch cas atgof yn ymwneud â chwaraeon yn yr ysgol.
Ceisiwch ddwyn i gof y darluniau sy’n aros gennych o’r atgofion hyn, yn ogystal â’r teimladau.
TASG 2
Dewiswch eich cas bwnc yn yr ysgol. Rhestrwch bump o bethau penodol nad ydych yn eu hoffi am y pwnc hwnnw. Rhestrwch hefyd bump o bethau a allai newid eich agwedd tuag at y pwnc hwnnw.
- PDF (.pdf): Dydd-Iau-Chwaraeon-Tasg-2.pdf
TASG 3
Ysgrifennwch bennill am eich profiad chi o ymarfer corff neu chwaraeon yn yr ysgol, gan ddilyn y patrwm sydd isod (sef y patrwm ym mhennill 2). Canolbwyntiwch ar greu darlun gwahanol ymhob llinell. Mae croeso i chi hefyd ddilyn patrwm odli pennill telyn.
1 Llawn yw’r ____ o ___________
2 Llawn yw’r ____ o _______________.
3 Llawn yw’r ____ o ______________,
4 Llawn wyf i o _________________.
- PDF (.pdf): Dydd-Iau-Chwaraeon-Tasg-3.pdf
TASG 4
Dychmygwch mai chi yw’r ferch yn y gerdd ‘Dydd Iau Chwaraeon’.
Ysgrifennwch ymson (200 o eiriau) yn disgrifio eich teimladau wrth y bwrdd brecwast ar fore dydd Iau chwaraeon yn yr ysgol.
Taflenni holl dasgau Dydd Iau Chwaraeon:
- PDF (.pdf): Tasgau-Dydd-Iau-Chwaraeon.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Dydd-Iau-Chwaraeon.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Dydd-Iau-Chwaraeon.pdf