Gweld Hen Ffrind - Gwion Hallam
(a gafodd ei ladd ar foto-beic tra’n fachgen ysgol)
Mae’r byd ’di cadw i droi ers iddo fynd
a’r clociau wedi cadw’u hamser llymsiarp
ers imi glywed sôn am daith fy ffrind
ar awr pan nad oedd amser i ni’n ddim
ond gair; ac yma rwy’n cyfadde’ nawr
na fydda i’n cofio amdano erbyn hyn
wrth drio gwasgu dyddiau i mewn i awr
a methu gwneud y mwya o f’amser prin.
Ond ddoe a minnau’n sownd yn ras y lôn
fe basiodd beic a’i sgrech yn rhyddid gwych,
a dyma’i wên fel golau’n llenwi 'nghofy nghof
nes i mi droi ac estyn at y drych –
a gweld mod innau’n teithio gyda’r byd
tra bod ei wyneb yntau'nef yn iau o hyd.
(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)