Gwedd Gyflwyno

Y Gerdd Werdd

Y Gerdd Werdd - Gwyneth Glyn

Sgen tiA oes gennyt ti  botel? Sgen ti bapur?

Sgen ti ganiau? Sgen ti dun?

Sgen ti amser i ailfeddwl

cyn eu taflu nhw i’r bin?

 

Casgla’r rhain fel trugareddaumân bethau ,

adeilada bentwr mawr,

yna tro nhw’n drysor newydd

fel mae’r machlud yn troi’n wawr.

 

Bwyda di y blwch ailgylchu,

llanwa di y crochanllestr crwn ar gyfer berwi pethau hud.

Gwylia hen bapurau echdoey diwrnod cyn ddoe

yn troi’n gylchgrawn newydd, drud.

 

Tro dy hun yn degan digri,

tro focs sgwâr yn botel gron.

Tro hen eiriau rhwng dy ddwylo

i wneud cerddi newydd sbon.

 

(allan o Cerddi’n Cerdded, Gwyneth Glyn, Gomer, 2008)