Gwedd Gyflwyno

Ray Gravell

Chwaraeodd Ray Gravell fel canolwr dros dimoedd Llanelli, Cymru a’r Llewod nôl yn y 1970au a’r 1980au. Ond roedd Grav yn gymaint mwy na chwaraewr rygbi, a phan fu farw ddiwedd Hydref 2007 yn 56 oed, bu tristwch mawr drwy Gymru a thu hwnt. Roedd Grav yn gymeriad cynnes, byrlymus a hoffus; yn Gymro i’r carn, yn frwd dros y Gymraeg a phethau Cymraeg, o ganeuon Dafydd Iwan i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n gyflwynydd a sylwebydd ar y radio a’r teledu; bu’n actor; bu’n ffrind i bawb. Bu’n ŵr ac yn dad i ddwy ferch fach. Ac yn y gerdd hon, er y tristwch, mae Gwyn Thomas yn ceisio dangos i ni fod Ray Gravell yn berson arbennig iawn, iawn.