Ar y Ffôn - Iwan Llwyd
Maen nhw’n tynnu’r hen focsys ffôn i lawr,
un wrth un,
y cromfachau cochion
oedd ymhob pen y pentref:
er mai dim ond lle i un oedd ynddyn nhw,
fel bocs ffôn Dr Who
roedd yn rhyfedd faint o hogiabechgyn
allai glustfeinioclustfeinio = gwrando’n ofalus iawn
a faint o genodmerched allai hel yno
i gario clecs
a chwythu cusanau i lawr y lein:
cynnig cysgod mewn cawod law
a chornel ar noson ddileuad,
ac ar glawr melyn y llyfr
roedd cyfle i dorri enw
a chariad cyntaf:
erbyn hyn mae gan bawb ei ffôn
pob un a’i felodi ei hun,
a dim sôn am harmoni –
ac ar drên neu fws dyna gantatacantata = ...
fel Tŵr Babel... o leisiau,
ac mae’r pentref yn ddigromfachau
yn graddol fynd yn un â’r nesa’,
a’r blychau cochion mewn amgueddfa
a’r genod a’r hogia yn tyfu’n hŷn,
heb le i rannu cyfrinach,
pob un wrtho’i hun,
yn pwyso ar ei ffôn.
(allan o Pac o Feirdd, Gwasg Carreg Gwalch, 2002)