Hillsborough, 1989

Hillsborough, 1989 - Alan Llwyd

Ar ôl y gêm disgwyliemyr oeddem wedi disgwyl gweld gael

adroddiadau a phenawdauteitlau mewn papur newydd ’n y wasg

a lluniau o’r goliau i gyd;

disgwyliem weld y sgiliau

a ddangosai rhai o’r chwaraewyr,

a’r rhannau gorau o’r gêm,

yn hwyrach ar y teledu y noson honno;

ac ar ôl y gêm disgwyliem

i gefnogwyr brwdfrydigbrwd, llawn brwdfrydedd fynegi

eu gorfoleddllawenydd mawr ym muddugoliaethbuddugoliaeth = canlyniad ennill

y tîm a ddilynent y tîm yr oedden’ nhw’n ei ddilyn , meddwi o lawenydd,

wrth ddathlu’r achlysurdigwyddiad crochleisiogweiddi a chanu’n groch

hyd oriau mân y bore.

Y peth olaf y disgwyliem ei weld

oedd llun o rywun yn rhoi

blodau ar archcist i gario corff marw ar ôl gêm bêl-droed.

 

(allan o Ffarwelio â Chanrif, Alan Llwyd, Cyhoeddiadau Barddas, 2000)

Nid testun hwyl a llawenydd yw chwaraeon bob tro. Weithiau mae digwyddiadau oddi ar y cae yn bwrw cysgod dros y gêm ei hun. A dyna a ddigwyddodd ar Ebrill 15, 1989, pan fu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl yn Stadiwm Hillsborough yn Sheffield. Digwyddodd hyn wedi i’r heddlu ganiatáu i ormod o gefnogwyr gael mynediad i deras oedd yn orlawn eisoes. Yn y gerdd hon, mae Alan Llwyd yn ein hatgoffa o’r hyn yr oedd pobl wedi disgwyl ei weld ar ôl y gêm y diwrnod hwnnw – roedd hi’n gêm ‘bwysig’, wedi’r cyfan, gêm gyn-derfynol Cwpan F.A. rhwng Lerpwl a Nottingham Forest. Ond wedyn, mae’n dangos i ni olygfa wahanol, a honno’n olygfa nad oedd neb wedi disgwyl ei gweld.

Alan Llwyd

 

  • Mae Alan Llwyd yn un o feirdd mwyaf cynhyrchiol Cymru.
  • Cafodd ei eni yn Nolgellau yn 1948, a'i fagu ym Mhen Llyn.
  • Alan Llwyd oedd yr ail fardd mewn hanes i wneud y dwbl dwbl, sef ennill y Gadair a'r Goron yn yr un Eisteddfod Genedlaethol, sef yn Rhuthun yn 1973 ac yn Aberteifi yn 1976.
  • Mae hefyd yn awdur nifer fawr iawn o lyfrau, cyfrolau a chofiannau.
  • Ef ysgrifennodd sgript y ffilm Hedd Wyn a gafodd ei henwebu am Oscar yn 1994.

 

BCq7onXCYAIyqD8

Gweithgaredd 1

Rhwng llinellau 1–7, uwcholeuwch y pethau hynny y mae’r bardd yn dweud y byddai disgwyl i ni weld ar ôl gêm bêl droed bwysig fel hon.

Gweithgaredd 2

Yn ôl llinellau 8–13, pa dri pheth y byddai disgwyl i’r cefnogwyr eu gwneud ar ôl i’w tîm ennill gêm fel hon?

Gweithgaredd 3

Nid oes odli rhwng diwedd llinellau yn y gerdd hon, ond mae odli yn digwydd o fewn linellau.

Ymha linellau y mae'r odli mewnol hyn yn digwydd?

Gweithgaredd 4

Anagramau o ba eiriau neu ymadroddion yn y gerdd yw’r canlynol?