Ewro 2016

Ewro 2016 - Llion Jones

Gerwrth ymyl, yn agos at y lan mae dagrau loespoen, dolur ,

yno, gobeithion einioesbywyd person

a foddwyd, a breuddwydion

dynion da aeth dan y don.

 

Yn y cof, sŵn drysau’n cau

yw tristwch taro trawstiaudarn o byst gôliau

llaw ffawddigwyddiad enwog ... yn drylliotorri’n ddarnau mân, chwalu ffydd

ar gaeau’r siom dragywyddyn digwydd o hyd ac o hyd, ar hyd yr oesau .

 

Hen hanes nawr yw hynny,

o hafau hesbsych, diffrwyth  Cymru fuCymru’r gorffennol

cyniwaircrynhoi, dod at ei gilydd  mae cân newydd

a’r haf hwn yw Cymru FyddCymru’r dyfodol .

 

Yn y Rhyl, Rhosneigr, Rhos,

Garnant, Bagillt a Gurnos,

Bedwas, Bala, Llanboidy,

mae Cymru’n un ynom ni.

 

Ag Ewrop ar y gorwelyn agosáu ,

da yw byw ym myd y bêl,

ciliwchewch yn ôl  o dir torcalontristwch mawr

yn un dorf a hwylio’r don.

 

(Allan o Llion Jones, Bardd ar y Bêl, Cyhoeddiadau Barddas, 2016)

Ym mis Gorffennaf 2016, cyrhaeddodd tîm pêl droed Cymru rownd gyn-derfynol Pencamwpriaeth Ewrop. Ysgrifennwyd y gerdd hon gan Llion Jones ar ddechrau’r bencampwriaeth, y bencamwpriaeth ryngwladol gyntaf i Gymru ei chyrraedd ers Cwpan y Byd ym 1958. Mae’r gerdd yn sôn am y modd y mae’r llwyddiant hwn wedi gwneud yn iawn am holl siom y gorffennol.

Yr actor Rhys Ifans yn darllen cywydd Llion Jones:

CoPGNnAWIAEKBFr.jpg
Poster o'r gerdd

Cân swyddogol Manic Street Preachers ar gyfer Ewro 2016:

Uchafbwyntiau Cymru yn Ewro 2016:

Llion Jones

 

DTWhLi2W4AAfUMr2

 

  • Brodor o Abergele sy’n byw ym Mhenrhosgarnedd.
  • Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Pethe Achlysurol yn 2007.
  • Aelod o dîm talwrn Caernarfon.
  • Mae’n trydar ar Twitter (@LlionJ) mewn cynghanedd yn unig. Cyhoeddodd gasgliad o’r trydariadau hynny yn 2012 yn ei gyfrol, Trydar mewn Trawiadau. 
  • Mae’n gefnogwr pêl-droed brwd ac roedd ei gyfrol ‘Bardd ar y Bêl’ yn 2016 yn dilyn taith gofiadwy tîm cenedlaethol Cymru i’r Ewros yn Ffrainc drwy gyfrwng ei gerddi.

 

51C0T+LrBEL. SX350 BO1204203200

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch yr holl eiriau neu ymadroddion yn y gerdd sy’n ymwneud â dŵr a’r ddaear.

Gweithgaredd 2

Yn y geiriau ‘Bedwas’ a ‘Llanboidy’, mae’r cytseiniaid ‘b’ a ‘d’ yn ymddangos yn yr un drefn yn y ddau air (‘bedwas’/‘Llanboidy’).

Cynghanedd yw’r enw ar hyn.

Uwcholeuwch y cytseiniaid sy’n ymddangos yn yr un drefn yn y parau canlynol o eiriau.

Gweithgaredd 3

Pa nodwedd arddull sydd yn y llinell ‘a llaw ffawd yn dryllio ffydd’?

Gweithgaredd 4

Cysylltwch y dyfyniad gyda'r nodwedd arddull cywir.

Gweithgaredd 5

Mae'r bardd yn enwi nifer o drefi a phentrefi Cymru yn y gerdd. Ydych chi'n gwybod ym mhle yng Nghymru mae'r llefydd hynny?