Tân yn y Dŵr - Einir Jones
Yr oedd y pysgod
yn y dŵr
fel tân gwyllt.
Cyn i mi blygu ymlaen
i roi tân wrth eu cynffonna’cynffonnau
mi roedden nhw wedi mynd
yn rocedi orengoch,
gwibiosymud yn gyflym o fan i fan
diflannu
yn nos y pwll.
A gadael rhywbeth ar eu holau
fel ogla’oglau
noson gei-ffocsnoson tân gwyllt
o’r bore wedyn,
yr hiraeth od
am y peth
na fedrir ei ddal
na’i ddofidofi = gwneud yn ddof, tawelu
na’i amgyffreddeall
â llygaid
na dwylo
dim ond ei wylio
wrth iddo fflachio ei ogoniantgogoniant = ysblander, gwychder
a diflannu.
(allan o Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, Gomer/Barddas, 1987)
Mae gan fyd natur y gallu i’n syfrdanu. Meddyliwch am gân swynol y deryn du neu am burdeb plu eira. Meddyliwch am harddwch y machlud neu am ffyrnigrwydd y storm. Ond weithiau mae’r profiad sy’n peri i ni ryfeddu yn llai o faint o lawer, yn sydyn ac yn annisgwyl, yn digwydd ac yn diflannu ar wib. A dyna’r math o brofiad a gafodd Einir Jones wrth syllu ar bysgod yn y dŵr un dydd.
Einir Jones yn cyflwyno'i hun a'i hoffter o farddoni:
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol.
Gweithgaredd 2
Uwcholeuwch y geiriau ac ymadroddion yn y gerdd sy’n ymwneud â thân gwyllt.
Gweithgaredd 3
Er ei bod yn gerdd ddisgrifiadol, dim ond pedwar ansoddair sydd ynddi.
Uwcholeuwch yr ansoddeiriau hynny.
TASG 1
Mewn parau, trafodwch y golygfeydd, y synau a’r arogleuon yr ydych chi’n eu cysylltu â noson tân gwyllt.
TASG 2
Ydych chi’n credu bod cyffelybu/cymharu’r pysgod i dân gwyllt yn gyffelybiaeth/gymhariaeth addas? Rhowch resymau dros eich ateb.
TASG 3
Ysgrifennwch baragraff neu gerdd fer iawn sy’n disgrifio tân gwyllt, gan ddechrau fel hyn:
Yr oedd y tân gwyllt yn yr awyr fel pysgod...
NEU
Yr oedd y tân gwyllt
yn yr awyr
fel pysgod...
Ceisiwch barhau â’r gyffelybiaeth/gymhariaeth hon drwy’r paragraff neu’r gerdd.
- PDF (.pdf): Tan-yn-y-Dwr-Tasg-3.pdf
TASG 4
Ysgrifennwch baragraff sy’n dwyn i gof ryw brofiad penodol a gawsoch chi o harddwch neu berygl byd natur (100 o eiriau).
Taflen holl dasgau Tân yn y Dŵr:
- PDF (.pdf): Tasgau-Tan-yn-y-Dwr.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Tan-yn-y-Dwr.docx