Cysylltu - Mei Mac
'Get Connected'
Er mynd i’r un ysgol, er byw’n yr un dre’
rydym yn rhannu ein cusanau dros y we.
Mae hi’n byw tua chwarter awr lawr y lôn,
ond rydym yn cyffwrdd ein gilydd dros linell y ffôn.
Yn ôl ei brawddegau sy’n llenwi fy sgrîn
’dyw hi byth yn siomedigtrist , ’dyw hi byth yn flincrac, dig .
Pob tro mae hi’n chwerthin mae’n gwneud fel hyn :–)
’sdim rhaid iddi fflachiorhoi cipolwg sydyn ond llawn ei dannedd gwyn, gwyn.
Er bod yn ei chwmni bob nos am ddwy awr,
er siarad a siarad, mae yna bellter mawr.
(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch/CBAC, 2005)
Mae oedolion yn cwyno byth a hefyd fod plant yn treulio llawer gormod o amser ar eu teclynnau digidol! Ond, erbyn hyn, ble fydden ni heb ffôn neu dabled neu gliniadur? Wedi dweud hynny, mae’n siwr nad oes modd gwneud popeth ar-lein, chwaith. Beth am gynnal perthynas gariadus neu gyfeillgarwch, er enghraifft? A oes rhaid i bobl ddod wyneb yn wyneb â’i gilydd er mwyn profi perthynas go iawn? Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi’n dawel bach – ond nid eu hateb, chwaith – gan y gerdd hon, wrth i’r bardd ddychmygu ei fod yn fachgen ysgol ‘mewn perthynas’ gyda merch leol.
Meirion MacIntyre Huws (Mei Mac)
- Prifardd sy’n dod yn wreiddiol o Gaernarfon ac yn cael ei adnabod fel ‘Mei Mac’.
- Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993 gyda’r awdl ‘Gwawr’.
- Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2001.
- Mae hefyd yn ddylunydd graffeg a chartwnydd.
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
Gweithgaredd 2
Atebwch y cwestiynau canlynol.
Gweithgaredd 3
Anagramau o ba eiriau yn y gerdd yw’r rhain?
TASG 1
a) ‘Get connected’ yw is-deitl y gerdd. Pam hynny?
b) Ydych chi hefyd yn credu bod y bachgen yn y gerdd yn hapus gyda’r berthynas fel ag y mae?
Pa eiriau, ymadroddion neu linellau yn y gerdd sy’n cefnogi eich ateb?
TASG 2
a) Pam, dybiwch chi, eu bod nhw’n cynnal perthynas ar y sgrîn yn hytrach na wyneb yn wyneb?
b) Mae’n sefyllfa gyffredin erbyn hyn, ond a ydych chi’n credu bod modd cynnal perthynas a chyfeillgarwch drwy gyfathrebu electronig yn unig? Pam?
c) A oes peryglon yn gysylltiedig â hyn? Pam?
TASG 3
Mae mwy a mwy o bobl bellach yn defnyddio emojis a symbolau i gyfathrebu.
Ceisiwch greu sgwrs sy’n gyfres o negeseuon rhwng ffrindiau, sgwrs sy’n gwneud defnydd helaeth o emojis a symbolau o bob math (gan gynnwys atalnodau a rhifau).
Cewch ddefnyddio hyd at dri gair go iawn ymhob neges, cyhyd â bod y geiriau hynny’n rhai Cymraeg (dim mwy nag un ochr o A4).
TASG 4
Mewn parau, ysgrifennwch sgwrs rhwng dau ffrind ar y cyfryngau cymdeithasol (WhatsApp, Facebook Messenger, iMessage, Snapchat ayyb) ar un o’r pynciau canlynol:
- Gwyliau’r Haf
- Gwaith Cartref
- Cariad
- Parti Pen-blwydd
- Bwlio
Bydd angen o leiaf 10 neges gan bob ffrind.
- PDF (.pdf): Cysylltu-Tasg-4.pdf
Taflen holl dasgau Cysylltu:
- PDF (.pdf): Tasgau-Cysylltu.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Cysylltu.docx