Mae pobl ifainc yn aml yn awyddus i fod yn hŷn. Ond nid i fod yn hen, chwaith. A cherdd am heneiddio yw’r englyn hwn gan un o feirdd gorau’r ugeinfed ganrif, sef Dic Jones. Yn y gerdd mae’n disgrifio’r modd y mae’r dyn hwn wedi newid yn gorfforol wrth fynd yn hŷn. Mae’n amlygu’r gwahaniaeth rhwng Taid yn ŵr ifanc a Taid yn hen ŵr, ac mae hwn yn destun tristwch.