TASG 3
Dychmygwch eich bod yn hen ŵr neu’n hen wraig – o bosib rhywun rydych yn ei adnabod neu ei hadnabod, neu mae croeso i chi ‘greu’ cymeriad.
a) Ysgrifennwch ymson (tua 400 o eiriau) yn sôn am y pethau nad ydych yn eu hoffi am yr ‘oes fodern hon’. Mae croeso i chi gwyno’n flin, ond ceisiwch gwyno’n ddifyr hefyd.
b) Cofiwch mai rhywbeth i’w berfformio i gynulleidfa yw ymson yn y pen draw. Efallai y bydd cyfle i chi ddarllen darn o’r ymson o flaen y dosbarth.