Gwedd Gyflwyno

Ar lan yr afon

Ar lan yr afon - Tudur Dylan Jones

Tra bod rhai yn hoff o chwarae rygbi,

neu golff neu denis, pêl-droed neu hoci,

 

roedd yn well gen innau ddilyn afon

efo rycsac a phicnic, roedd hynny’n ddigon,

 

gwialen bysgota, ac ambell fwydyn,

ac aros i’r pysgod gydio’n y bachyn.

 

Treulio trwy’r dydd yn gwylio’r tonnau,

a’r diwrnod cyfan yn mynd fel eiliadau.

 

Mae gen i hiraethmath o deimlad arbennig ... am yr afon heno,

ac wrth edrych nôl, be dwi wir yn ei gofio...

 

nid nifer y pysgod a ges i o’r lli

ond cael amser i siarad, dim ond dad a fi.

 

(allan o Geiriau Bach Chwareus, Gwasg Carreg Gwalch, 2016)