Cysgod

Cysgod - Sian Owen

Beth ydyw ar y paredwal, mur

sy’n edliwatgoffa rhywun am hen fai neu hen helynt wrtha’ i’n hy'hyf, beiddgar, haerllug

am wendid, am ryw broblem

sy’n bygwth muriau’r tŷ?

 

Fin nos, yng ngwyllgwyll  blinderaupoenau meddwl ;

ben bore, yno mae –

rhwy arlliwarwydd lleiaf o rywbeth yn y gornel

â siâp annelwiganeglur, amhendant  gwaegofid mawr .

 

Ond pam rwy’n mynnu sylwi

ar rimynrhimyn = ymyl allanol llwyd fel hyn?

Brycheuyndarn bach o lwch, nam  bychan ydyw

a’r wal yn gynfascynfas gwyn.

 

(allan o Darn o'r Haul: Cerddi Sian Owen, Cyhoeddiadau Barddas, 2015)

Mae gan bawb ei broblem. Ond a oes peryg ein bod ni weithiau’n gwneud môr a mynydd o’r broblem honno? Ydyn ni’n gadael i’r broblem honno fwrw cysgod dros bob rhan arall o’n bywydau ni? Canlyniad hyn yw bod un peth bach yn gallu ymddangos yn bwysicach na’r holl bethau da am ein bywydau. Yn y gerdd hon, mae Siân Owen yn cyfaddef fod rhywbeth yn ei phoeni hi, ac er nad yw hi’n gallu rhoi siâp pendant i’r gofid, mae yno o hyd. Serch hynny, nid yw hi am i’r un peth hwnnw newid ei hagwedd tuag at holl hapusrwydd gweddill ei bywyd.

 

Mae’n deg dweud bod Siân Owen yn gwybod ei bod hi’n dioddef o ganser pan gyfansoddodd hi’r gerdd hon. Ymhen deunaw mis, bu farw yn 48 oed.

Sian Owen

 

p014cw76

 

  • Roedd Sian Owen yn fardd, gwyddonydd, cyfieithydd a nofelydd.
  • Roedd hi’n byw ym Marianglas yn Ynys Môn.
  • Bu farw yn 48 oed yn 2013 ar ôl dioddef o ganser.
  • Cyhoeddwyd casgliad o’i cherddi, Darn o’r Haul: Cerddi Sian Owen, yn 2015.

 

Gweithgaredd 1

Mae’r bardd yn defnyddio nifer o eiriau sy’n awgrymu bod rhywbeth yn ei phoeni hi, heb chwaith ei enwi’n blwmp ac yn blaen. Uwcholeuwch y geiriau hynny.

Gweithgaredd 2

Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.

Gweithgaredd 3

 Gyda pha eiriau yn y rhestr isod y mae’r geiriau hyn yn eu tro yn odli: